Lleoliad:
Cynhadledd fideo drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 13 Mehefin 2023
Amser:
09.02 -
09.27
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Siân Gwenllian AS Darren Millar AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaethau y Siambr a Phwyllgorau Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Nid oes dim newidiadau i fusnes yr wythnos hon.
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.50pm.
Dydd Mercher
Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor Busnes y bydd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, gyda chaniatâd y Llywydd, yn ymateb i’r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Gymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch ddydd Mercher 14 Mehefin, yn dilyn cais gan y Pwyllgor.
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newid a ganlyn:
Dydd Mawrth 27 Mehefin 2023
·
Rheoliadau Sgil-gynhyrchion
Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid
(Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 (5 munud) – wedi’i ohirio tan 4
Gorffennaf
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunwyd ar yr ychwanegiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 21 Mehefin 2023 –
· Eitem ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru (45 munud)
Dydd Mercher 5 Gorffennaf 2023 -
3.4 Cynigion deddfwriaethol yr Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion arfaethedig a chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol ar gyfer dadl i’w drafod ar 21 Mehefin:
Adam Price
NNDM8293
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar gyflwyno dyletswydd ddinesig i bleidleisio.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) ceisio efelychu llwyddiant democratiaethau eraill sydd wedi cyflwyno dyletswydd ddinesig i bleidleisio o ran cynyddu'r nifer sy'n pleidleisio mewn etholiadau a thrwy hynny wella lefel yr ymgysylltiad a'r cynrychioldeb ar draws pob oedran, dosbarth a chymuned;
b) cyflwyno dyletswydd ddinesig ar bawb sy'n gymwys i bleidleisio i gymryd rhan yn etholiadau'r Senedd ac etholiadau cyngor sir;
c) caniatáu i'r rhai sy'n dymuno nodi eu hanfodlonrwydd gydag ymgeisydd, plaid neu wleidyddiaeth yn ehangach i wneud hynny drwy opsiwn o ymatal yn gadarnhaol ar y papur pleidleisio;
d) caniatáu cyflwyno cosb briodol am beidio â chydymffurfio â'r rhwymedigaeth ddinesig i bleidleisio neu ymatal yn gadarnhaol, gydag eithriadau cyfreithlon; ac
e) darparu ar gyfer cyflwyno cyfnod peilot ar gyfer cyflwyno'r ddyletswydd ar sail oedran benodol.
3.5 Nodyn ar y trefniadau ar gyfer y sesiwn ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru
Trafododd y Pwyllgor Busnes y trefniadau arfaethedig ar gyfer sesiwn ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru i’w chynnal ar 21 Mehefin 2023, a chytuno arnynt. Fel rhan o hyn, gwnaeth y Pwyllgor Busnes yr hyn a ganlyn:
4 Ymgysylltu ag Ewrop
4.1 Gohebiaeth am Gyngres Cyngor Ewrop
Trafododd y Pwyllgor Busnes ymhellach enwebiadau'r Senedd ar gyfer cynrychiolwyr ar Gyngres Cyngor Ewrop a chytunodd i enwebu:
5 Unrhyw faterion eraill
Cododd y Llywydd fater y Cwestiynau Amserol, yn dilyn cynnydd diweddar yn nifer y cwestiynau a gyflwynir, a rhoddodd wybod i’r Pwyllgor Busnes ei bod yn bwriadu rhoi ystyriaeth bellach ynghylch a ddylid gwneud unrhyw newidiadau i’r canllawiau er mwyn egluro'r meini prawf ymhellach. Trafododd y Pwyllgor Busnes hefyd a ellid cyhoeddi Cwestiynau Amserol a gyflwynir yn yr un modd â Chwestiynau Brys a chytunodd hefyd i ystyried y ddau fater ymhellach, gyda'r bwriad o weithredu unrhyw newidiadau o ddechrau tymor yr hydref.